Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ymweliad mewn cysylltiad â Rheoli Meddyginiaethau - 12 Mehefin 2017

Meddygfa Stanwell, Penarth

Mae Meddygfa Stanwell wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o ran peidio â rhagnodi eitemau y gellir eu prynu yn hawdd dros y cownter. Mae’r fenter hon wedi dod o du’r Bwrdd Iechyd yn y bôn, ond nid yw pob meddygfa wedi mabwysiadu’r dull. I helpu i weithredu’r polisi, mae’r feddygfa wedi llunio llythyr i’w roi i gleifion, ac mae llythyr gan y Bwrdd Iechyd hefyd, sy’n darparu rhywfaint o atebion ychwanegol i gwestiynau posibl ynglŷn â pham nad yw eitemau yn cael eu rhagnodi. Croesawyd hyn yn fras, oherwydd roedd cynrychiolwyr y cleifion yn mynegi pryderon fod pethau, y gellid eu prynu’n hawdd, weithiau’n cael eu rhagnodi. (Nodyn o rybudd - nid yw eitemau’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn dim ond er mwyn arbed arian i gleifion, oherwydd, mewn rhai achosion mae’r cyffuriau hyn, y gellid eu prynu’n hawdd, yn cael eu cynnwys i sicrhau bod cleifion yn ymwybodol bod eu hangen arnynt, ac i fonitro eu bod yn cael eu cymryd).

Mae llawer o gleifion yn cael cyffuriau a ragnodir ar bresgripsiwn hanesyddol, ac nid ydynt bob amser yn sylweddoli y gallent eu prynu. Mae angen cysondeb ymhlith y rhai sy’n rhagnodi meddyginiaethau, oherwydd nid yw’r neges wedi’i thargedu’n gwbl gywir ar hyn o bryd.

Mae’r feddygfa yn cynnal adolygiadau meddyginiaethau’n rheolaidd (o leiaf yn flynyddol) i gadw rheolaeth ar nifer y presgripsiynau. Mae’r fferyllwyr yn ategu’r gwaith hwn, am eu bod yn siarad â chleifion am yr eitemau ar eu presgripsiynau ac yn canfod a ydynt yn angenrheidiol.

Mae dad-ragnodi yn her, oherwydd mae’n llawer mwy anodd rhoi’r gorau i rywbeth ar bresgripsiwn nac i’w ddechrau. Byddai’n ddefnyddiol cael canllawiau ar sut i gynnal sgyrsiau anodd ynghylch atal meddyginiaethau, a sicrhau y caiff y sgyrsiau hyn eu cynnal mewn ffordd barchus.

Mae rhagnodi electronig yn angenrheidiol o fewn lleoliad gofal sylfaenol. Ar hyn o bryd caiff yr holl sgriptiau eu llofnodi â llaw, sy’n cymryd cryn dipyn o amser. Nid oes fawr o ddiogelu’n gysylltiedig â pharhau i lofnodi â llaw (sydd yn aml yn  ddadl a ddefnyddir ar gyfer peidio â chyflwyno dull rhagnodi electronig), gan fod fferyllwyr yn gwneud gwiriadau.

Yn aml, mae diffyg dealltwriaeth gan gleifion ynghylch beth yw diben eu meddyginiaethau, ac mae hyn yn achosi pryder a phoeni. Gwneir llawer o waith gan fferyllwyr i egluro beth yw diben y cyffuriau, a pham y mae eu hangen, neu beidio, yn achos eitemau amlroddadwy. Mae angen i gleifion gael cymorth i gymryd meddyginiaethau weithiau, ac yn aml maent yn teimlo embaras gan bethau fel yr angen i ddefnyddio blwch ‘dosset’. Mewn rhai achosion caiff nyrsys ardal eu defnyddio i helpu cleifion i gymryd meddyginiaeth, ond nid yw hyn yn ddefnydd effeithlon iawn o adnoddau - er y gall y nyrsys ardal wedyn wirio unrhyw bentyrru cyffuriau posibl ar yr un pryd, sy’n ddefnyddiol, oherwydd mae cael mynediad i gartrefi cleifion i wirio hyn yn anodd.

Dylid gofyn y cwestiwn, pam fod contract y GIG ar gyfer rhai cyffuriau yn llawer mwy costus na’r archfarchnadoedd.  Gall y gwahaniaeth rhwng y pris tariff a’r pris consesiwn fod yn eithaf sylweddol, a bod yn destun amrywiadau arwyddocaol.

Gall cyfyngu meddyginiaethau i un math fod yn broblem ar gyfer y claf, oherwydd nid yw un maint yn addas i bawb, fel petai, bob amser, er enghraifft o ran nodwyddau ar gyfer pobl diabetig, mae angen cydbwysedd.  Ni ellir rheoli meddyginiaethau’n effeithiol heb dreulio rhywfaint o amser ac adnoddau yn nodi ffyrdd o arbed adnoddau.

Mae angen gwell rheolaeth ar y rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Yn aml, rhagnodir cyffuriau ‘newydd a mwy costus’  i gleifion yn yr ysbyty, gan nad oes yr un cymhellion i ystyried cost y feddyginiaeth mewn ysbytai, ac mae’n anodd tynnu rhywun oddi ar feddyginiaeth benodol gan fod cleifion yn meddwl ‘... ond mae fy ymgynghorydd wedi rhagnodi hwn ar fy nghyfer’. 

Gall fod yn rhwystredig pan fydd pobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty a chanddynt rhestr o feddyginiaethau, ac yn aml nid yw’n ymddangos bod unrhyw gysoni â’r rhestr wreiddiol wrth iddynt adael yr ysbyty, ac os bydd cyffuriau wedi cael eu hepgor, nid yw’r rheswm dros yr hepgor yn glir bob amser, ac mae ansicrwydd a yw’n fwriadol ai peidio. Er bod MTED yn darparu rhywfaint o wybodaeth, roedd amharodrwydd i roi gormod o ffydd yn y wybodaeth hon, oherwydd yn aml, yn yr achosion mwy cymhleth, bydd meddygon teulu yn awyddus i gwrdd  â chleifion i drafod eu meddyginiaeth.  Ymddengys bod diffyg dealltwriaeth am gostau presgripsiynau penodol o ysbytai – a gallant gostio miloedd o bunnoedd i Feddygon Teulu.    

Roedd cefnogaeth i wella’r cysylltiad rhwng systemau TG a gwybodaeth, gan gynnwys mynediad at y cofnodion cleifion sydd gan Feddygon Teulu, gan fod llawer iawn o ryngweithio rhwng y fferyllydd â chleifion. Yn aml, ni fydd fferyllwyr yn gwybod y cefndir i bresgripsiynau, ond gallai gwybod hynny helpu i ateb nifer o ymholiadau. Hefyd, gallai caniatáu i fferyllwyr gael mynediad at gofnodion cleifion helpu meddygon teulu i wybod faint o’r presgripsiwn a gaiff ei ddosbarthu.